Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Elin Jones Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.
2.2P-04-443 Hanes Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
2.3P-04-444 Ymgyrch ‘DIG FOR VICTORY’
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r
Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni
Ewropeaidd yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb;
Ysgrifennu at CLlLC i ofyn sut gallai awdurdodau lleol gynorthwyo
gyda chynllun o’r fath.
2.4P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb, a gofyn a yw’r ddeddfwriaeth yn effeithiol ac a yw’n bwriadu cynnal adolygiad arni.
2.5P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a’r Gweinidog Cyllid cyn gynted â phosibl i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a gofyn beth yw canfyddiadau’r ymgynghoriad diwethaf a phryd y mae penderfyniad yn debygol o gael ei wneud ar y mater.
2.6P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb;
Holi am safbwyntiau ehangach ar y ddeiseb drwy ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro, Cymdeithas Twristiaeth Sir Benfro, Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru a chymdeithasau hanesyddol perthnasol.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-404 Awyrennau Di-Beilot Aberporth
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i rannu gohebiaeth y deisebydd â’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a gofyn iddi ymateb i bob un o’r pwyntiau a godwyd gan y deisebydd.
3.2P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol unwaith y ceir gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru.
3.3P-04-432 : Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i lansio ymgynghoriad ysgrifenedig cyhoeddus ar y ddeiseb. Yn dibynnu ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, gallai’r Pwyllgor gynnal sesiynau tystiolaeth lafar.
3.4P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd
3.5P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Rannu ymateb y deisebydd â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau gan ofyn iddo ymateb i’r cwestiynau a godwyd, a’i fod yn rhoi manylion am amserlen y ffordd osgoi;
Sicrhau nodyn o unrhyw benderfyniadau a chamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru ar y ffordd osgoi.
3.6P-04-418 Enwi’r A470 yn - Brif Ffordd Tywysog Owain
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb ffurfiol y deisebydd.
3.7P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb ac yn sgîl y penderfyniad i adeiladu uned arennol newydd, cytunwyd i gau’r ddeiseb. Gwnaeth y Pwyllgor longyfarch y prif ddeisebydd am ei ddyfalbarhad wrth ddilyn y mater hwn.
3.8P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am hynt yr adolygiad a’r canfyddiadau unwaith y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau;
Ysgrifennu at yr Athro Siobhan McCelland i’w hysbysu am y ddeiseb hon.
3.9P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty
3.10 P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori, ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o gyfle i gyfrannu at y cynigion;
Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd a sut mae barn y deisebwyr a’r ymgynghoriad ehangach wedi bod yn sail i benderfyniad y Bwrdd Iechyd.
3.11 P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu pryderon penodol a godwyd gan y deisebydd a gofyn iddi ymateb yn uniongyrchol iddynt, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan swyddogion gyda NICE er mwyn mabwysiadu Safon Ansawdd NICE yng Nghymru;
Ysgrifennu at Gofal, Hafal a Mind Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb hon.
3.12 P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn gofyn pryd y gwneir penderfyniad ynghylch lleoliad yr uned, a sut y cynhelir gwaith dadansoddi pellach.
3.13 P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd, gan rannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn pa ystyriaeth a roddwyd i’r materion hyn;
Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o gyfle i gyfrannu at y cynigion.
3.14 P-04-431 : Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd a pha ystyriaeth benodol a roddwyd o ran darpariaeth yr Uned Babanod Gofal Arbennig, a gofyn sut yr oedd barn y deisebydd yn sail i benderfyniad y Bwrdd Iechyd;
Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o wybodaeth i gyfrannu at y cynigion.
3.15 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd yn gofyn sut mae’n bwriadu atgyfnerthu’r defnydd o basbortau, pryd y cynhelir ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth bosibl a gofyn bod y deisebwyr yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn;
Ysgrifennu at y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r ddeiseb.
3.16 P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol
3.17 P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro
3.18 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
Ystyriodd y Pwyllgor y tair deiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod y diweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad dilynol a gofyn bod deisebwyr y tair deiseb yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad;
Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn a ydynt yn teimlo eu bod wedi cael digon o gyfle i ymgysylltu â’r broses ymgynghori.
3.19 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i:
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn rhannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn am fanylion pellach ar yr ymchwil i effaith ffermydd gwynt ar dwristiaeth a chynnwys amserlen;
Gofyn am ragor o wybodaeth gan y deisebwyr am y materion a godwyd yn yr ohebiaeth.
3.20 P-04-414 Swyddi Cymreig
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn yn ffurfiol am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth weinidogol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniwyd y cynnig.
5. Y broses dderbyniadwy
Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth am broses dderbyniadwy’r deisebau a chytunodd i edrych eto ar fater deisebau ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli.
Trawsgrifiad